Siartiaeth - Wicipedia
idioleg
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Siartwyr)
Mudiad a fynnai weld gwellianau mewn amodau byw a hawliau dinesig gweithwyr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu drwy 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.
Murlun o Chwyldro Casnewydd (1839)
mudiad gwleidyddol
radicaliaeth gwleidyddol
Radicaliaeth a Phrotest
Cyfarfod o'r Siartwyr yn Kennington Common, Llundain yn 1848
Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848, a chyflwynwyd deiseb i D'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebau. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai yn Swydd Stafford a'r Black Country, sef bwrdeistrefi Dudley, Sandwell a Walsall.
Roedd Siartaeth yn un o'r mudiadau dosbarth gweithiol torfol cyntaf mewn hanes. Y prif reswm dros ffurfio mudiad y Siartwyr oedd siom a dicter rhai o'r dosbarth canol gyda Deddf Diwygio 1832 ac anhapusrwydd y dosbarth gweithiol nad oedden nhw wedi cael y bleidlais o gwbl. Roedd y diffyg grym gwleidyddol i ddosbarth gweithiol Cymru wedi cynyddu poblogrwydd Siartaeth yng Nghymru, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol newydd y wlad. Cynyddodd hyn y galwad am newidiadau i'r system wleidyddol yng Nghymru. Roedd problemau eraill yn poeni'r dosbarth gweithiol hefyd, fel amodau byw a gwaith gwael, system atgas y tlotai a basiwyd gan Ddeddf Newydd y Tlodion yn 1834, agwedd y Llywodraeth tuag at y dosbarth gweithiol a'r undebau. Roedd y cosbau llym a roddwyd gan y Llywodraeth i Ferthyron Tolpuddle yn dangos eu gwrthwynebiad i'r syniad o weithwyr yn ymuno ag undebau. Roedd anhegwch mawr yn dal i fodoli yn y system bleidleisio, gan fod diffyg pleidlais i'r dosbarth gweithiol yn golygu na allent wella eu hamgylchiadau byw a gwaith. Os nad oeddent yn medru lleisio eu barn wleidyddol drwy gael y bleidlais byddent yn methu dod o hyd i ateb i'r problemau cymdeithasol eraill oedd yn eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.
Lluniodd cefnogwyr Siartiaeth ddogfen o'r enw Siarter y Bobl a gyhoeddwyd yn 1838. Roedd y chwe phwynt yn dangos dylanwad clir y Radicaliaid:
1. Pleidlais i bob dyn yn 21 oed.
2. Pleidlais gudd er mwyn diogelu'r etholwr.
3. Dim cymwysterau eiddo i Aelodau Seneddol fel y gallai etholwyr ethol dyn o'u dewis, boed hwnnw'n ddyn cyfoethog neu'n ddyn tlawd.
4. Talu Aelodau Seneddol fel y gallai gweithwyr cyffredin fforddio cynrychioli eu hetholaeth.
5. Etholaethau cyfartal er mwyn sicrhau'r un gynrychiolaeth i'r un nifer o etholwyr.
6. Etholiadau blynyddol. Credai'r Siartwyr y byddai hyn yn atal llwgrwobrwyo a llygredd yn ystod y broses etholiadol yn ogystal  gwneud Aelodau Seneddol yn fwy atebol i'r bobl.
